Ghazalaw Sampler by Ghazalaw published on 2013-10-10T12:02:44Z Ghazalaw celebrates the affinity between Indian Ghazal and the Welsh folk tradition. Mumbai singer Tauseef Akhtar and Welsh singer-songwriter Gwyneth Glyn weave the love poetry of their two ancient traditions together to the accompaniment of harp, tabla, guitar and harmonium. Tauseef Akhtar was introduced to Gwyneth Glyn through their mutual mastering friend Donal Wheelan of Hafod Mastering. With support from Wales Arts International the two artists came together to explore their musical affinity. Over six days in the Roundhouse, St Hilary, Ghazalaw was born. In November 2012 Gwyneth invited Welsh harpist Georgia Ruth to join her and Tauseef in Mumbai to develop the songs further with musicians Ashish Jha, Manas Kumar and Sanjoy Das. Ghazalaw performed in Mumbai, at the Desert Festival, Delhi and featured at the Indiearth Exchange in Chennai. With support from the Arts Council of Wales and generous sponsorship from Air India, the musicians returned to the Roundhouse in January 2013 to record their eponymously-titled debut album ‘Ghazalaw’. They are very excited to be featuring in the WOMEX Cardiff Opening Concert curated by Cerys Matthews. They have elso been chosen to showcase at WOMEX, before taking to the road on the Horizons tour, playing four major venues in Wales over four nights. --------------- Mae Ghazalaw yn ddathliad o’r berthynas rhwng canu Ghazal Indiaidd a’r traddodiad gwerin Cymreig. Mae’r canwr Tauseef Akhtar o Mumbai a’r gantores-gyfansoddwraig Gwyneth Glyn yn plethu canu serch y ddau draddodiad ynghŷd i gyfeiliant telyn, tabla, gitâr a harmoniwm. Cafodd y canwr ghazal Tauseef Akhtar ei gyflwyno i Gwyneth Glyn trwy eu ffrind cyffredin, Donal Wheelan o Hafod Mastering. Gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru daeth y ddau artist ynghŷd i archwilio eu cysylltiad cerddorol. Dros chwe niwrnod yn y Tŷ Crwn, Sant Hilari, ganwyd Ghazalaw. Ym mis Tachwedd 2012 gwahoddodd Gwyneth y delynores Georgia Ruth Williams i ymuno â hi a Tauseef yn Mumbai i ddatblygu’r caneuon ymhellach gyda’r cerddorion Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das. Perfformiodd Ghazalaw ym Mumbai, yn y Desert Festival, Delhi, ac ymddangos yn yr Indiearth Exchange yn Chennai. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a nawdd hael gan Air India, dychwelodd y cerddorion i’r Tŷ Crwn ym mis Ionawr 2013 i recordio eu halbym gyntaf ‘Ghazalaw.’ Maen nhw’n hynod gyffrous i fod yn perfformio yng Nghyngerdd Agoriadol Womex sy’n cael ei giwradu gan Cerys Matthews. Cawsant hefyd eu dewis ar gyfer showcase yn WOMEX. Yn dilyn hynny byddant yn teithio fel rhan o daith Gorwelion gan berfformio ar bedair o brif lwyfanau Cymru dros bedair noson. Genre Folk Contains tracks Tum nazar se / Cyfri'r sêr by Ghazalaw published on 2013-10-10T12:01:34Z Apne ruswayee / Sefyll yn stond by Ghazalaw published on 2013-10-10T11:59:21Z Moliannwn / Ishq karo by Ghazalaw published on 2013-10-10T12:01:34Z