Los Blancos - Chwarter i Dri by Libertino published on 2017-11-29T15:26:48Z ‘Datgytsylltu’ a ‘Chwarter i Dri’ yw sengl dwbl A newydd Los Blancos a recordiwyd a chynhyrchwyd gan Kris Jenkins aka Sir Doufus Styles (SFA, Gruff Rhys, Cate Le Bon, H Hawkline, Gulp) yng Nghaerdydd. Ar yr wyneb ceir sŵn tyner a chynnes i’r gân ‘Datgysylltu’, gyda dylanwad Velvet Underground yn llifo drwyddi, ond wrth gloddi’n is clywn gân llawn perygl am ddiflastod bywyd sy’n cwympo’n ddarnau. Mae ‘Chwarter i Dri’ hefyd yn delio â phynciau dyrys bywyd er i’r sŵn amgen Americanaidd o’r nawdegau cynnar a geir yma, tebyg i ‘It’s a Shame About Ray’ gan y ‘Lemonheads’ a 'Slanted and Enchanted' gan‘Pavement’, fod yn un cadarnhaol a melodaidd. Fe ddylanwadodd cerdd o waith Bukowski (Escape from the black widow spider, love is a dog from heck) ar thema’r gân ac yn enwedig ar y llinell ‘pry bach arall yn dy we, cyrff yn deilchion mân ar hyd y lle’. Genre SlackerRock Comment by BreakFastKing Cool 2018-12-05T18:44:32Z